Cyngor Sir Benfro
Ysgol Glannau Gwaun, Abergwaun

5d77488c14

Disgrifiad o’r Prosiect

Ysgol gynradd newydd yng nghanol Abergwaun yw Ysgol Glannau Gwaun.  Fel ysgol a oedd cynt ar ddau safle, mewn adeilad Fictorianaidd ac adeilad o’r 60au a ddaeth i ddiwedd eu hoes, daw â 290 o ddisgyblion ac Uned SEN Gogledd Sir Benfro at ei gilydd.  Safle tir llwyd yn edrych dros y dref yw ei lleoliad newydd, lle safai hen ysgol ramadeg y dref ar un adeg.

Mae’r ysgol £6m hon yn rhan o raglen gyfalaf Cyngor Sir Benfro, a manteisiodd hefyd ar gyllid pontio gan Lywodraeth Cymru.

Dyluniwyd y prosiect yn llwyr gan benseiri a pheirianwyr strwythurol, gwasanaeth, priffyrdd a draenio, a phenseiri tirlun Cyngor Sir Benfro – ac yn defnyddio gwasanaethau syrfëwr meintiau, gwasanaethau cydlynu CDM a chlerc gwaith mewnol – a’i redeg fel contract traddodiadol.

Cyd-destun

Roedd y safle, er mewn lleoliad amlwg a golygfeydd anhygoel dros harbwr Abergwaun a Mynyddoedd y Preseli, yn eithriadol heriol.

Mae ganddo gebl trydan foltedd uchel a phibell nwy prif gyflenwad yn rhedeg o dan lwybr ceffyl hanesyddol sy’n torri drwy ganol y safle ac yn rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Lleolir y safle ar fryn serth iawn gyda thai o’i gwmpas – a godwyd ar ben yr un wythïen o graig igneaidd galed sy’n cynnwys Carreg Las Preseli a dim mwy na 300mm o uwchbridd drosti.  Nid allai’r system ddraenio storm bresennol dderbyn dim mwy o ddŵr ffo.

Mae gan y safle hefyd ficrohinsawdd gyda gwynt de-orllewinol cryf cyson ynghyd â gwyntoedd cryfion hallt o’r môr yn chwythu o gyfeiriad Harbwr Abergwaun.

Dyluniad

Mae dyluniad yr ysgol yn ymateb yr un mor dda i’r cyd-destun ag i anghenion dysgu yn yr unfed ganrif ar hugain.  Mae’n ddyluniad cyfoes sy’n cyd-fynd â gorweddiad y tir ac sy’n adlewyrchu’r arfordir o’i gwmpas yn ei ddefnydd o olau a lliw.

Roedd golau ac awyru, a’r golygfeydd ysblennydd, yn ffactorau a ystyriwyd gan y tîm dylunio.  Roedd gan yr ysgolion a ddefnyddiwyd gan y plant o’r blaen naill ai ffenestri mor uchel fel na allent weld allan ohonynt, neu a wnâi i’r ystafelloedd dosbarth or-gynhesu’n annifyr yn yr haf.

Mae’r ardaloedd addysgu’n amgylchynu iard chwarae gaeedig.   Mae hyn yn amddiffyn y maes chwarae o’r ffordd ac yn ei gysgodi rhag y gwyntoedd de-orllewinol ac o’r môr; a hefyd yn rhwystr rhag sŵn traffig.

Mae pob un o’r ystafelloedd dosbarth sy’n wynebu’r de wedi eu cysgodi a’u hamddiffyn rhag y tywydd gan ganopïau allanol, a’r rhan fwyaf ohonynt yn agor allan i faes chwarae neu le chwarae ar falconi.

Mae’r ysgol ei hun yn gweithredu’n bennaf ar un lefel.  Fodd bynnag, fel nad oedd angen tyllu gormod o’r graig igneaidd galed, lleolir y tanc chwistrellu a thair ystafell ddosbarth ar y llawr isaf lle mae’r tir yn mynd ar i waered.
Ysbrydolwyd y cynllun lliwiau ar gyfer yr ysgol gan y môr a’r awyr i adlewyrchu natur arfordirol y dref yn ogystal â’r gwahanol dymhorau dros Fryniau Preseli, a welir o’r safle.

Rhoddwyd sylw arbennig i’r dyluniad mewnol er mwyn helpu’r plant yn Uned Anghenion Arbennig Gogledd Sir Benfro.  Roedd hyn yn golygu cynllun lliwiau tawel ac arwyddion dyslecsia-gyfeillgar.

9c29eb4c49Cynaliadwyedd

Mae’r adeilad wedi ennill sgôr cyfnod interim ‘Rhagorol’ gan BREEAM.  Yn gynharach yn y flwyddyn, enillodd ei chwaer ysgol yn Neyland wobr 2012 am yr adeilad BREEAM a sgoriodd uchaf yng Nghymru yn y categori Addysg, gyda strategaeth amgylcheddol yr un fath yn union.

Lleolir yr ysgol yng nghanol Abergwaun – sy’n golygu llai o deithio mewn ceir, ac mae gerllaw llwybr ceffyl a rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

4b0edb9865Fe’i dyluniwyd a’i hadeiladwyd i safon uchel gyda thrwch o inswleiddiad ac i fod yn aerglos iawn, fel y gwneir defnydd effeithlon o’r adnoddau naturiol sy’n ei gwresogi.

Mae wedi ei hawyru’n gwbl naturiol – hyd yn oed y gegin – gan ffenestri mawr sy’n agor, ffenestri to a ‘dalwyr gwynt’.  Mae hyn yn cyfrannu at ddigonedd o olau naturiol sydd, ynghyd â goleuadau ynni isel ar synwyryddion golau-dydd, yn lleihau’r defnydd o drydan.

Mae uned cyfuno gwres a phŵer (CHP) yn cynhyrchu dros 50% o drydan yr adeilad, a hefyd yn rhedeg y gwres tymheredd isel o dan y llawr ac, ynghyd â rhesiad o baneli solar, yn cynhyrchu dŵr poeth.

Ystyriwyd faint o garbon sydd wedi’i ymgorffori yn y dyluniad.  Defnyddiwyd dros 20% o ddeunyddiau a ailgylchwyd – ffenestri alwminiwm wedi eu hailgylchu, dur wedi’i ail-gychu a thros 4,000 tunnell o graig fâl a gloddiwyd.

Mae’r rhan fwyaf o’r deunyddiau yn ‘A’ neu ‘A+’, yn cynnwys lefel isel o VOC a thystysgrif ‘cadwyn cystodi’ gydnabyddedig.  Defnyddiwyd llawer o ddeunyddiau lleol fel cladin Castanwydden Felys Gymreig, i dorri lawr ar filltiroedd cludo.

Strategaeth Ddwr

Oherwydd y graig, ychydig iawn o ddŵr glaw sy’n treiddio felly gosodwyd system ddraenio gynaliadwy (SUDS).  Mae hyn yn cronni’r dŵr mewn tanciau mawr o dan faes parcio’r staff cyn ei ryddhau’n araf i’r môr.

Defnyddir dŵr glaw wedi’i gynaeafu a ffitiadau arbed dŵr yn y toiledau i sicrhau y defnyddir llai na 1.5m³ o ddŵr y person pob blwyddyn.  Mae’r tirlunio’n dibynnu’n llwyr ar ddŵr glaw naturiol.

Strategaeth Wastraff y Safle

Fel rhan o’n hymrwymiad i’r amgylchedd – a’n dyhead i osgoi tirlenwi gymaint o wastraff â phosibl – cloddiwyd dros 4,000 tunnell o graig igneaidd gan forthwyl hydrolig a’i falu’n fân ar y safle.   Drwy wneud hyn llwyddwyd i osgoi tua 800 o siwrneiau lori ar hyd ffyrdd culion y dref fach hon.

Ecoleg

Ymgorfforwyd ‘Ystafell Ystlumod’ yn y dyluniad ar gyfer yr ystlumod a arferai unwaith â byw yn yr adeilad blaenorol.  Symudodd wenoliaid duon i’r blychau ar eu cyfer hyd yn oed cyn i’r contractwr adael y safle.

Mae’r safle hefyd yn brolio mwy fyth o rywogaethau ar y safle tir llwyd hwn.

Y Gymuned

Roedd hwn yn safle anodd lle’r oedd angen cael y gymuned leol ar ein hochr.  Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori DQI llawn ar ansawdd y dyluniad.

Enillodd y contractwr sgôr ‘Contractwr Ystyrlon’ o 36 oherwydd eu hagwedd rhagweithiol a’r ffaith iddynt noddi gwyliau celf a cherddorol lleol.

57d79915ce

Maria Jones o Gyngor Sir Benfro’n derbyn Gwobr Cynaliadwyedd CLAW 2012 gan y Cynghorydd Aaron Shotton o Gyngor Sir y Fflint.