Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Ysgol Gymraeg Bro Helyg
Enw’r cleient | Adran Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent |
Gwerth y Contract | £5,295,538 (cyfanswm gwerth y contract gwreiddiol) |
Rheolwr y Prosiect | Jim Allen (Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent) |
Pensaer | Jim Allen (Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent) / Powell Dobson Architects (tim contractwyr) |
Syrfewr Meintiau | Trevor Keyse (Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent) |
Peiriannydd Mecanyddol | Robin Cornelius (Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent) |
Peiriannydd Trydanol | Phil Roberts (Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent) |
Peiriannydd Strwythurol | Carl Powell (Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent) |
Clerc y Gwaith | Keith Price (Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent) |
Goruchwyliwr Cynllunio | Emyr Strongers |
Prif Gontractwr | W.R.W. Construction Ltd |
Project Description
Y weledigaeth ar gyfer yr adeilad oedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg oedd â’r nod i ysgogi disgyblion i fabwysiadu’r iaith Gymraeg yn fwy eang o fewn y Fwrdeistref. Roedd angen yr ysgol oherwydd bod rhieni’n ystyried bod astudio’r iaith yn bwysig ac roeddent wedi dewis anfon eu plant i’w haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae arwyddocad hyn wedi’i bwysleisio yn y cynllun, sy’n wahanol i gynllun ysgol gyfrwng Saesneg.
Mae cynllun yr adeilad yn un dewr sy’n ceisio ymgorffori rhinweddau pobl a thir Cymru. Y themâu bras yw deuoliaeth a’r cyferbyniad rhwng y caled a’r meddal, y soffistigedig a’r garw, a’r modern a’r traddodiadol. Mae ffurf yr adeilad yn haniaeth o nodweddion tirwedd Cymru, y mynyddoedd, y dyffrynnoedd a’r creigiau. Mae’r deunyddiau’n gyfuniad o bren castanwydden felys heb ei drin ac wedi’i dyfu’n lleol, cerrig naturiol, sinc, corten a llechi. Mae’r dewisiadau hyn a’u defnydd yn adlewyrchu’r themâu cysyniadol eang.
Y nod oedd creu adeilad oedd yn teimlo’n lân, yn olau, yn goeth a minimalaidd oedd yn trosglwyddo’r teimlad o ryddid i’w disgyblion trwy ei ddefnyddiau a siapiau amrywiol a lleoliad ei ffenestri.
Mae’r ysgol yn gyfuniad o gyfleusterau modern ac arloesol a fydd yn annog y disgyblion i ddatblygu eu sgiliau a gwybodaeth o fewn amgylchedd sy’n rhannol wledig.
Mae’r ysgol yn diwallu’r holl ofynion presennol ar gyfer mynediad i bobl anabl, ac mae yna nifer o ddolenni sain wedi’u hadeiladu mewn gwahanol rannau o’r adeilad. Mae’r prif doiledau yn gyfleusterau integredig sydd â mynediad i bobl anabl, fodd bynnag mae yna gyfleuster dynodedig ar wahan ar y Llawr Cyntaf lle bod angen rhagor o breifatrwydd.
Cwblhawyd yr adeilad ym mis Awst 2010, ac agorwyd yr adeilad ar gyfer Tymor yr Hydref ym mis Medi 2010.
Ariannwyd y prosiect gan Grant Cynulliad Cymru a rhaglen Gyfalaf Blaenau’r Cymoedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Cyfanswm y cyllid a ddyranwyd oedd £6,651,000 yn cynnwys, tir, seilwaith, adeiladu, llety atodol, tirlunio, dodrefn a chyfarpar a ffioedd proffesiynol.
Cafodd y prosiect ei gaffael fel amrywiad Datblygu ac Adeiladu o Ddylunio ac Adeiladu, gan ddefnyddio Cytundeb Dylunio ac Adeiladu JCT 2005. Gwnaed y dyluniad cychwynnol gn Adran Gwasanaethau Technegol Blaenau Gwent (hyd at gam D).
Rheolwyd y prosiect mewn dull tebyg iawn i gynllun Partneriaeth, gan gynnwys y dull caffael. Cytunwyd a diwygiwyd y manylion gyda chyfyngiadau o ran costau wedi’u gosod gan bris y tendr. Dilynodd y prif gontractwr, W.R.W. Construction Ltd a’u hymgynghorwyr y briff o greu adeilad o ansawdd uchel gyda’r nod o ailgreu bwriad y dyluniad gwreiddiol, cyn belled ag yr oedd hynny’n bosibl.
Gofynnwyd yn benodol i’r adeilad i fod yn ‘ddatganiad’ fel bod golwg yr adeilad yn adlewyrchu’r deunyddiau naturiol lleol ac yn annog cynaliadwyedd o fewn y gymuned. Y nod yw bod yr ysgol yn symbol o’r datblygiad o werthoedd Cymreig traddodiadol er mwyn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
Agweddau Cynaliadwyedd
Mae’r adeilad wedi cael ei adeiladu i wneud y defnydd gorau o’r safle, o ran ardal a lleoliad y safle. Mae’r ysgol wedi cael ei dylunio i gyflawni safon ‘Rhagorol’ BREEAM.
Mae’r adeilad wedi’i adeiladu i wneud y mwyaf o wres yr haul a golau dydd, ac i osgoi or-gynhesu. Mae gosodiadau a rheoliadau er mwyn sicrhau effeithiolrwydd ynni wedi cael eu gosod yn yr adeilad.
Mae’r adeilad wedi cael ei insiwleiddio i safonau sydd ymhell tu hwnt i’r rhai sydd wedi’u pennu gan Reoliadau Adeiladu presennol er mwyn lleihau colli gwres, gwneud y defnydd mwyaf o enillion gwres goddefol, a lleihau’r maint o ynni sydd ei angen i wresogi’r adeilad.
Mae system ailgylchu dwr llwyd wedi cael ei osod, bydd y safle’n gwneud defnydd o dechnegau Draenio Trefol Cynaliadwy megis palmant athraidd, swaliau, ffosydd cerrig a phwll gwanhau. Bydd system ddraenio gwely cors yn cael ei osod islaw’r datblygiad a fydd yn ymdrin â’r holl ddraenio budr.
Ar hyn o bryd, nid yw’r holl ddeunyddiau mewnol wedi’u pennu; fodd bynnag bydd rhywfaint o ddefnydd yn cael ei wneud o ddeunyddiau adnewyddadwy, deunyddiau wedi’u hailgylchu a deunyddiau y gellir eu hailgylchu. Bydd y cladin pren ar y waliau yn bren o ffynhonellau lleol ac wedi’i ardystio gan yr FSC. Mae’r dyluniad hefyd yn defnyddio system draenio gynaliadwy, lle mae’r holl ddwr ar y wyneb yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i ddwr daear leol yn lle cael ei droi i’r system ddraenio dwr wyneb yn y brif bibell.
Cynghorydd David Thomas, Cyngor Sir Ddinbych yn cyflwyno Gwobr Clod CLAW 2011 i’r Cynghorydd Hedley McCarthy a Clive Rogers, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Hefyd yn y llun mae’r Cynghorydd Keith Evans, Cadeirydd CLAW a Garet Nutt, Cadeirydd y Bwrdd Swyddogion a Enwebwyd.