Cyngor Sir Ceredigion
Llyfrgell y Dref, Archifau’r Sir a Chanolfan Ddydd Aberystwyth
Enw’r Cleient | Cyngor Sir Ceredigion – Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Addysg a Diwylliant |
Gwerth y Contract | £2,000,000 |
Rheolwr Prosiect | D Billingsley, Prif Bensaer, Cyngor Sir Ceredigion |
Pensaer y Prosiect | A Bailey, Pen Bensaer, Cyngor Sir Ceredigion |
Syrfewr Meintiol | D Evans, Syrfewr Meintiol, Cyngor Sir Ceredigion |
Peirannydd Mecanyddol | S Fincham, Cyngor Sir Ceredigion |
Peiriannydd Trydanol | L Williams, Cyngor Sir Ceredigion |
Peiriannydd Strwythurol | J Edwards, Cyngor Sir Ceredigion |
Clerc Gwaith | D Jones, Cyngor Sir Ceredigion |
Goruchwyliwr Cynllunio | P Thomas, Cyngor Sir Ceredigion |
Prif Gontractwr | RL Davies a’i Fab, Bae Colwyn, Conwy, Cymru |
Disgrifiad o’r Prosiect
Yn 2010 penderfynodd Gyngor Sir Ceredigion gymeradwyo cyllid i ailddatblygu hen Neuadd y Dref Aberystwyth yn Llyfrgell ac Archifdy Sirol newydd ar gyfer y dref. Wrth i’r brîff ar gyfer y prosiect gael ei ddatblygu, gofynnodd y Cyngor fod yr adeilad hefyd yn cynnwys canolfan ddydd ar y llawr gwaelod isaf.
Mae’r cyfleusterau newydd wedi golygu bod Llyfrgell y Dref ac Archifdy’r Sir wedi gallu symud o’u lleoliadau a’u cyfleusterau anfoddhaol blaenorol mewn rhannau eraill o’r dref.
Mae’r prosiect wedi cynnwys ailwampio amlen allanol yr adeilad yn llwyr, ymgorffori system rendr newydd wedi’i inswleiddio, gwaith trwsio strwythurol a chryfhau’r adeiladwaith i gynnal y swyddogaethau llyfrgell ac archifdy, ailfodelu cynllun mewnol yr adeilad a gosod systemau gwres, golau, amddiffyn tân ac awyru newydd fel y bo’n briodol i’r defnyddiau newydd hynny.
Dechreuodd y gwaith ar y safle ym mis Medi 2010 a’i gwblhau yn ôl y rhaglen ym mis Ebrill 2012. Cyfrannodd grant gan CyMAL hefyd at gost y prosiect.
Mae’r gofod newydd ar y llawr gwaelod yn cynnwys y brif fynedfa a chyntedd y dderbynfa, rhannau pwrpasol o’r llyfrgell fenthyg gyhoeddus i oedolion, plant a rhai yn eu harddegau, ystafell adnoddau cymunedol, ardal gyfrifiaduron, toiledau ac ystafell archifau ddiogel. Ar y llawr cyntaf, mae’r gofod newydd yn cynnwys mwy o ardaloedd llyfrgell fenthyg, ardal astudiaethau lleol a llyfrgell gyfeiriol, ystafell chwilio’r archifdy sirol a dwy ystafell archifau ddiogel arall. Ar y llawr gwaelod isaf, mae’r gofod newydd yn cynnwys derbynfa’r ganolfan ddydd, swyddfa a lolfa, ystafell hylendid, cegin a thoiled, ardaloedd storfa, ystafelloedd cyfarpar, ystafell gyfarfod i’r ganolfan ddydd, ardaloedd derbyn a chatalogio’r archifdy a swyddfeydd i staff y llyfrgell.
Mae’r llyfrgell, yr archifdy a’r ganolfan ddydd newydd yn gwbl hygyrch ac yn ganolbwynt cymunedol newydd a dramatig i ganol y dref.
Agweddau ar Gynaliadwyedd
Mae’r adeilad presennol wedi’i ail-orchuddio’n llwyr mewn system rendr ac inswleiddiad trwchus.
Mae cyfarpar casglu solar wedi ei osod ar do’r adeilad i gynhesu dŵr poeth.
Mae bwyler newydd effeithlon wedi’i osod.
Y Cyng. Ellen ap Gwynn o Gyngor Sir Ceredigion yn derbyn Gwobr Clod CLAW 2012 gan Milica Kitson, Prif Weithredwr, Adeiladu Arbenigrwydd Cymru