-
Gwasanaeth Costau Oes Gyfan SCQS: Cyfrifoldeb y swyddog eiddo corfforaethol yw “sicrhau bod costau oes gyfan yn cael eu hadlewyrchu yn y penderfyniadau eiddo cyfalaf a refeniw” Arweiniad i Gynllunio Rheoli Asedau yng Nghymru adroddiad CLAW 2001
-
Making competition work for you – canllaw ar gyfer swyddogion caffael gwaith adeiladu. Nod y canllaw byr hwn yw lledaenu arfer da ymhlith sefydliadau sy’n gyfrifol am gaffael prosiectau adeiladu cyhoeddus ac i annog cystadleuaeth effeithiol.
-
Crynodeb yw’r ‘Getting Started Quickly Guide’ hwn o Ganllawiau Rheoli Asedau’r Sector Cyhoeddus y Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig (RICS). Un ddogfen o gyfres yw’r ddogfen hon a gynhyrchwyd gan yr RICS ar y pwnc Rheoli Asedau Eiddo ac Eiddo mewn Busnes. Gellir cael rhagor o fanylion ar wefan yr RICS yn http://www.rics.org/uk/.
-
Rheoli ynni a dwr o fewn llywodraeth leol yng Nghymru – adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru. Ychydig o gynghorau yng Nghymru sy’n rheoli ynni a dwr yn effeithiol: yn y rhan fwyaf o gynghorau, mae polisiau, cyfrifoldebau a rheoli perfformiad wedi’u tan ddatblygu ac wedi’u hintegreiddio’n wael. Mae angen i Gynghorau atgyfnerthu eu dull o reoli ynni a dwr os ydynt am sicrhau gostyngiadau arwyddocaol o ran eu defnydd a’u cost.
-
Creu’r Cysylltiadau : Cyflawni ar Draws Ffiniau: Adroddiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru – Mae’r papur hwn yn amlinellu camau gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sgil Adolygiad o Wasanaethau Cyhoeddus Lleol (Adroddiad Beecham), i fwrw ymlaen tuag at ei nod i weddnewid y dull mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyflwyno a phrofiad pawb sy’n eu defnyddio
-
Gwerthu Asedau Treftadaeth gan Gyrff Cyhoeddus – Adroddiad gan ‘Green Balance’ i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol : Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut mae llywodraeth leol a chanolog yn gwerthu tir, adeiladau ac eiddo o ddiddordeb treftadaeth.
-
Waterwise : Mae’r canllaw hwn yn rhan o gyfres o gyhoeddiadau arbed dwr rhad ac am ddim gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
-
Lleihau Gwastraff Adeiladu – Canllaw Arfer Da Mae’r canllaw hwn yn cynnwys cyngor ac argymhellion yn seiliedig ar ganfyddiadau y Prosiect Ymchwil RCAR 157, a wnaed gan Ganolfan Ymchwil yr Amgylchedd Adeiledig (CRiBE), Prifysgol Caerdydd yn ardal ddiwydiannol De Cymru, DG.
-
Whole Life Appraisal : Cyhoeddwyd gan Federation of Property Services mae’r canllaw hwn yn amlinellu egwyddorion Gwerthuso Oes Gyfan – asesiad systematig o holl dreuliau, incwm a pherfformiad perthnasol sy’n gysylltiedig â phrynu, caffael, perchnogaeth a’r posibilrwydd o werthu ased yn ystod ei oes.